Mathau o fudd-daliadau
Dyma ganllaw cam wrth gam ar sut i ymuno â'ch asesiad fideo a'r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld.
Brofi eich offer ar gyfer eich asesiad fideo
Gwyliwch ganllaw cam wrth gam ar brofi eich offer ar gyfer eich asesiad fideo ⤴
Cam 1
Noder: Mae'r sgrinluniau ar y dudalen hon yn dangos enghreifftiau o'r sgriniau y gallech ddod ar eu traws wrth ymuno â'ch asesiad. Gall y sgriniau a ddangosir amrywio yn dibynnu ar y budd-dal rydych yn gwneud cais amdano.
Ar ôl clicio’r ddolen ‘Join now’ berthnasol, mae’n bosibl y bydd ffenestr ‘Attend Anywhere’ yn agor. Darllenwch y wybodaeth a dewiswch ‘Continue’. Pan ofynnir i chi wneud hynny, dewiswch ‘Allow’ i ganiatáu mynediad i’ch camera a’ch meicroffon.
Cam 2
Pan fydd y sgrin ‘Video call setup’ yn agor, dewiswch ‘Enter Waiting Area’.
Cam 3
Ar ôl mynd i mewn i’r man aros, bydd gwybodaeth o dan y teitl ‘Please Read’ yn cael ei harddangos. Darllenwch yr wybodaeth ac yna dewiswch ‘Next Step’ i barhau.
Cam 4
Rhowch eich enw, eich rhif ffôn a'ch dyddiad geni. Dewiswch 'Next step'.
Cam 5
Darllenwch a derbyniwch y Telerau a'r Polisïau trwy dicio'r blwch. Yna dewiswch 'Enter Waiting Area'.
Cam 6
Cam 7
Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cyflwyno ei hun trwy ddweud ei enw a dweud eu bod yn dod o Capita.
Yna bydd angen iddynt ofyn rhai cwestiynau adnabod i chi cyn y gall eich asesiad fynd yn ei flaen.
