Cysylltwch â Capita

Os nad ydych chi wedi gallu dod o hyd i’r atebion i’ch cwestiynau yn ein rhan ‘Cwestiynau Cyffredin’, cysylltwch â Capita gan ddefnyddio un o’r sianeli canlynol:

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Ffôn

Gallwch ffonio Capita rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a dydd Sadwrn 9am tan 5pm. 

Efallai y bydd rhywun arall yn galw ar eich rhan, ond bydd angen iddynt gael eich rhif Yswiriant Gwladol.

0800 072 0221.

BSL interpreter

Post

Os byddai'n well gennych gysylltu â Capita drwy'r post, defnyddiwch y cyfeiriad hwn:

Capita HAAS
PO Box 307
Darlington
DL98 1AB

Sut i wneud sylw neu gwyn am ein gwasanaeth PIP

Capita sy’n gyfrifol am y broses asesu. Mae hyn yn cynnwys trefnu a chynnal asesiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a fideo. Dywedwch wrthym os ydych yn anhapus gydag unrhyw ran o’n gwasanaeth, fel y gallwn geisio gwella’r sefyllfa. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda, a lle mae angen i ni wneud pethau’n well.

Gallwch gysylltu â Capita drwy unrhyw un o'r dulliau cyswllt uchod neu trwy ddefnyddio'r sianeli pwrpasol a restrir isod:

E-bost: ⁠Lot2.PIPCustomerRelations@haas.dwp.gov.uk
Post: PIP Complaints, PO Box 325, Darlington, DL1 9PH

Beth sy'n digwydd i'm cwyn?

Ein nod yw delio â'ch cwyn yn deg, yn gyson ac mewn modd amserol. Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith ac yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Weithiau gall ein hymchwiliad gymryd yn hirach oherwydd efallai y bydd angen i ni gael copi o'r adroddiad neu'r holiadur gan y swyddfa sy'n delio â'ch cais, neu gael gwybodaeth gan y gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithwyr eraill dan sylw.

Os byddwn yn dod o hyd i unrhyw anghywirdebau yn eich adroddiad, byddwn yn hysbysu'r swyddfa sy'n delio â'ch cais. Mater i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yw penderfynu a yw ein canfyddiadau'n newid eu penderfyniad ynghylch eich hawl i fudd-dal. Ni all Capita newid penderfyniad y DWP ynghylch eich budd-dal na gofyn am asesiad newydd.

Os ydych yn anhapus â phenderfyniad y budd-dal ei hun

Mae cwynion am ein gwasanaeth yn wahanol i anghytuno â chanlyniad eich cais. Os ydych yn anhapus â'r penderfyniad a wnaed gan y DWP, gallwch ofyn iddynt ei ailystyried. Ffoniwch y DWP os gwelwch yn dda (Llun-Gwener 9am-5pm) ar 0800 121 4433 (ffôn testun: 0800 121 4493). Os oes gennych anawsterau clyw neu leferydd, gallwch hefyd gysylltu â'r DWP drwy Relay UK: 18001 yna 0800 121 4433.

Mynd â'ch cwyn ymhellach

Mae Capita yn darparu asesiadau ar ran y DWP. Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon ar ôl i ni ymateb, gallwch gysylltu ag Archwilydd Achosion Annibynnol y DWP (ICE):

Independent Case Examiner 
PO Box 209, Bootle, L20 7WA 
E-bost: ice@dwp.gov.uk 
Ffôn: 0800 169 0310

Pwysig: Oni bai eich bod eisoes wedi cael cytundeb gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar ddefnyddio e-bost fel Addasiad Rhesymol, ni all Capita, ar ran DWP, drafod gwybodaeth bersonol gyda chi drwy e-bost am resymau diogelwch. Ni fydd Capita na DWP byth yn gofyn i chi anfon unrhyw enwau defnyddiwr, cyfrineiriau, gwybodaeth bersonol, iechyd, feddygol na manylion cyfrif banc drwy e-bost ac ni fyddwn yn prosesu gwybodaeth o’r fath os byddwch yn ei hanfon – bydd yn cael ei dileu. Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich amgylchiadau drwy’r post neu dros y ffôn.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Credyd Cynhwysol (UC) a budd-daliadau eraill

Ffôn

Am unrhyw ymholiadau neu gymorth i gwblhau eich holiadur WCA50, cysylltwch â Capita ar:

0800 072 0222 (Cymru a Lloegr)
0800 072 0226 (llinell Gymraeg)

Mae'r llinell ymholiadau cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a dydd Sadwrn 9am tan 5pm.

Gwasanaeth cyfnewid testun

Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw, gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun ar 18001 0800 072 0222 (defnyddiwch gydag apiau NGT neu Relay UK).

Post

Os byddai'n well gennych gysylltu â Capita drwy'r post, defnyddiwch y cyfeiriad hwn:

Capita HAAS
PO Box 307
Darlington
DL98 1AB

Sut i wneud sylw neu gwyn am ein gwasanaeth ESA, UC a budd-daliadau eraill

Capita sy’n gyfrifol am y broses asesu. Mae hyn yn cynnwys trefnu a chynnal asesiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a fideo. Dywedwch wrthym os ydych yn anhapus gydag unrhyw ran o’n gwasanaeth, fel y gallwn geisio gwella’r sefyllfa. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda, a lle mae angen i ni wneud pethau’n well.

Gallwch gysylltu â Capita drwy unrhyw un o'r dulliau cyswllt uchod neu trwy ddefnyddio'r sianeli pwrpasol a restrir isod:

E-bost: Lot2.CustomerRelations@haas.dwp.gov.uk
Post: Capita ESA, PO Box 307, Darlington, DL1 9PH