Mathau o fudd-daliadau
Cyngor cam wrth gam yn arwain at, yn ystod, ac ar ôl eich asesiad ffôn.
Dewisiwch o’r opsiynau isod er mwyn symud i lawr i’r adran berthnasol:
Cyn eich asesiad
Cysylltwch â Capita os hoffech chi...
- Newid eich apwyntiad - mae'n bwysig iawn eich bod yn dod i’ch apwyntiad. Os na wnewch hynny, byddwn yn dychwelyd eich cais i DWP. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni ar unwaith. Dim ond unwaith y gallwch newid eich apwyntiad.
- Gofyn am gyfieithydd iaith neu ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
- Gofyn am apwyntiad gydag asesydd ymarferol o ryw penodol
- Gofyn am recordiad sain o’ch asesiad.
Beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich asesiad ffôn:
Prawf o ID
Ni ofynnir i chi ddangos ID, ond gofynnir rhai cwestiynau diogelwch i chi.
Eich ffôn
Os ydym yn eich ffonio ar eich ffôn symudol, gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi’i wefru'n llawn cyn yr asesiad. Ceisiwch fod mewn lle tawel, gyda signal da a dim sŵn cefndir.
Unrhyw dystiolaeth newydd
Os oes gennych unrhyw dystiolaeth newydd o sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, trafodwch hyn gyda'r gweithiwr iechyd proffesiynol. Sicrhewch fod eich manylion adnabod yn cael eu dangos yn glir ar unrhyw dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwch megis eich enw llawn a rhif Yswiriant Gwladol. Bydd angen i chi anfon copi o’r dystiolaeth at DWP ar ôl eich asesiad.
Anfonwch unrhyw dystiolaeth newydd at:
Freepost RTEU-HAGT-SLBL
Personal Independence Payment 1
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1AA
Dod â chydymaith i'ch asesiad
Dyma rai canllawiau defnyddiol y gallwch eu lawrlwytho
Dyma rai fersiynau Hawdd eu Deall o'n canllawiau
Recordiad sain
Ar ôl eich apwyntiad, byddwch yn derbyn dolen i'ch recordiad trwy neges destun neu e-bost, a neges destun ar wahân gyda chyfrinair un-tro. Bydd y cyfrinair yn dod i ben ar ôl 24 awr a dim ond unwaith y gellir ei ddefnyddio i gyrchu a lawrlwytho eich recordiad. Mae hyn er mwyn eich diogelu chi a'r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn eich apwyntiad.
Os hoffech gael copi CD o'r recordiad, rhowch wybod i'r asesydd ymarferol. Byddwn hefyd yn cadw copi o'r recordiad.
Ar ôl eich asesiad, os oes gennych unrhyw anawsterau wrth gael mynediad i'ch recordiad, neu os oes angen copi CD, cysylltwch â Capita.
Yn ystod eich asesiad
Byddwch yn barod ar gyfer yr alwad...
Mae angen i chi fod yn barod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol eich ffonio ar amser eich apwyntiad. Bydd y galwad yn dod o rif sy'n dechrau ag 0808 neu'n rhif cudd. Bydd ein gweithiwr iechyd proffesiynol yn ceisio eich ffonio fwy nag unwaith. Os na fyddwch yn ateb y ffôn, byddwn yn dychwelyd eich hawliad i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Cofiwch roi gwybod i'r gweithiwr iechyd proffesiynol os hoffech i'ch cydymaith gael ei ychwanegu at yr alwad.
Bydd yr gweithiwr iechyd proffesiynol yn cyflwyno ei hun drwy ddweud ei enw wrthych a dweud ei fod yn ffonio o Capita PIP.
Bydd angen i'r asesydd ymarferol ofyn rhai cwestiynau hunaniaeth i chi cyn y gall eich asesiad fynd yn ei flaen. Os oes gennych unrhyw bryderon nad yr asesydd ymarferol yw pwy mae’n dweud yw ef/hi, cysylltwch â Capita.
Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnal asesiadau.
Mae'n bwysig cofio nad yw'r asesiad yn feddygol, felly nid yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol yn ceisio gwneud diagnosis o'ch symptomau nac argymell triniaeth.
Yn hytrach, bydd yn canolbwyntio ar sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Bydd yr gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn i chi sut rydych chi'n rheoli eich gweithgareddau dyddiol ac yn cofnodi eich atebion ar liniadur. Dyma eich cyfle i esbonio sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
Bydd yr asesiad yn cymryd cyhyd ag sy'n angenrheidiol i'r gweithiwr iechyd proffesiynol gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt - mae hyn fel arfer tua awr.
I gael gwybod mwy, gwyliwch y fideo byr hwn: ⤴
Ar ôl eich asesiad
Bydd yr gweithiwr iechyd proffesiynol yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer Adran Gwaith a Phensiynau.
Bydd yr adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd gennych yn ogystal ag unrhyw beth a drafodwyd yn ystod eich asesiad.
Bydd yn anfon yr adroddiad at yr Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant wneud penderfyniad ar eich cais.
Bydd Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar eich cais a'r holl wybodaeth ategol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiad asesu, eich ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw dystiolaeth arall rydych wedi'i darparu.
Unwaith y byddant wedi gwneud eu penderfyniad, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych a allwch gael PIP. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad.
Pan fyddwch yn cael eich llythyr penderfyniad, os hoffech gael copi o'r adroddiad asesu, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu'r penderfyniad, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau (Llun-Gwener 9am-5pm) ar 0800 121 4433 (ffôn testun: 0800 121 4493).
Os oes gennych anawsterau clyw neu leferydd, gallwch hefyd gysylltu â DWP trwy Relay UK Relay UK: 18001 ac yna 0800 121 4433
