Mathau o fudd-daliadau
Mae'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fudd-dal heb brawf modd i bobl rhwng 16 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth sydd â chyflwr neu anabledd corfforol neu feddyliol hirdymor, sy'n golygu eu bod yn cael anawsterau gyda rhai tasgau bob dydd neu wrth fynd o gwmpas.
Mae PIP yn helpu gyda rhai o'r costau ychwanegol y gallai pobl anabl eu hwynebu o ddydd i ddydd, i'w helpu i fyw bywydau llawn, gweithgar ac annibynnol. Mae dwy ran i PIP:
- rhan bywyd bob dydd os oes angen help arnoch gyda thasgau bob dydd
- rhan symudedd os oes angen help arnoch i symud o gwmpas
Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael asesiad. Gellir gwneud hyn wyneb yn wyneb yn un o'n canolfannau asesu, dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd gweddill yr asesiadau'n cael eu cwblhau gan ddefnyddio'r wybodaeth yn eich cais ac unrhyw wybodaeth ategol rydych wedi'i hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae llawer o sefydliadau cyngor annibynnol am ddim a all eich helpu a'ch cefnogi gyda'ch hawliad PIP. Dod o hyd i sefydliad yn eich ardal chi.
Nid yw asesiadau PIP yn feddygol, ni fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud diagnosis o'ch cyflwr nac yn argymell triniaeth. Mae'n asesiad ymarferol i ddeall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
Dechrau arni
Os penderfynwch bod PIP yn iawn i chi, y cam cyntaf yw cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch y botwm 'Cychwyn eich cais' isod, neu ffoniwch linell gwneud cais newydd am PIP ar 0800 917 22222.
Anfonir ffurflen atoch yn y post o'r enw 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi', ynghyd â llyfryn gwybodaeth i'ch helpu i'w chwblhau. Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen ac unrhyw wybodaeth ategol o fewn mis. Gall gwybodaeth ategol helpu ein gweithwyr iechyd proffesiynol i ddeall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
Gall gwybodaeth ategol gynnwys:
- Rhestrau presgripsiwn rheolaidd
- Dyddiadur neu lythyr gofalwr
Adroddiadau neu gynlluniau triniaeth diweddar gan:
- Meddygon teulu neu ymgynghorwyr
- Nyrsys
- Therapyddion galwedigaethol
- Ffisiotherapyddion
- Gweithwyr cymdeithasol
- Timau cymorth anabledd dysgu
- Aelodau o'r teulu sy'n darparu cefnogaeth neu ofal
Eich asesiad
Rydym bob amser yn anelu at gynnal asesiad proffesiynol, gan ei wneud yn glir beth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a'r hyn y mae angen i chi ei wneud. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud ein gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio, byddwn yn gwrando arnoch ac yn sicrhau eich bod yn teimlo'n gyfforddus.
