Mathau o fudd-daliadau
Mae'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fudd-dal heb brawf modd i bobl rhwng 16 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth sydd â chyflwr neu anabledd corfforol neu feddyliol hirdymor, sy'n golygu eu bod yn cael anawsterau gyda rhai tasgau bob dydd neu wrth fynd o gwmpas.
Mae PIP yn helpu gyda rhai o'r costau ychwanegol y gallai pobl anabl eu hwynebu o ddydd i ddydd, i'w helpu i fyw bywydau llawn, gweithgar ac annibynnol. Mae dwy ran i PIP:
- rhan bywyd bob dydd os oes angen help arnoch gyda thasgau bob dydd
- rhan symudedd os oes angen help arnoch i symud o gwmpas
Efallai na fydd angen asesiad arnoch
Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gael asesiad. Gellir gwneud hyn wyneb yn wyneb yn un o'n canolfannau asesu, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Nid oes angen i bawb fynychu asesiad. Weithiau gallwn gwblhau eich asesiad gan ddefnyddio'r wybodaeth yn eich ffurflen 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi' ac unrhyw wybodaeth ategol rydych wedi'i hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os gallwn wneud hyn, ni fyddwn yn eich gwahodd i asesiad. Dyma pam ei bod yn bwysig darparu cymaint o wybodaeth berthnasol ag y gallwch wrth i chi gwblhau eich ffurflen.
Mae llawer o sefydliadau cyngor annibynnol am ddim a all eich helpu a'ch cefnogi gyda'ch hawliad PIP. Dod o hyd i sefydliad yn eich ardal chi.
Nid yw asesiadau PIP yn feddygol, ni fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud diagnosis o'ch cyflwr nac yn argymell triniaeth. Mae'n asesiad ymarferol i ddeall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
Dechrau arni
Os penderfynwch bod PIP yn iawn i chi, y cam cyntaf yw cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch y botwm 'Cychwyn eich cais' isod, neu ffoniwch linell gwneud cais newydd am PIP ar 0800 917 2222.
Anfonir ffurflen atoch yn y post o'r enw 'Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch chi', ynghyd â llyfryn gwybodaeth i'ch helpu i'w chwblhau. Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen ac unrhyw wybodaeth ategol o fewn mis. Gall gwybodaeth ategol helpu ein gweithwyr iechyd proffesiynol i ddeall sut mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch chi.
Gall gwybodaeth ategol gynnwys:
- Rhestrau presgripsiwn rheolaidd
- Dyddiadur neu lythyr gofalwr
Adroddiadau neu gynlluniau triniaeth diweddar gan:
- Meddygon teulu neu ymgynghorwyr
- Nyrsys
- Therapyddion galwedigaethol
- Ffisiotherapyddion
- Gweithwyr cymdeithasol
- Timau cymorth anabledd dysgu
- Aelodau o'r teulu sy'n darparu cefnogaeth neu ofal
Eich asesiad
Rydym bob amser yn anelu at gynnal asesiad proffesiynol, gan ei wneud yn glir beth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a'r hyn y mae angen i chi ei wneud. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud ein gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio, byddwn yn gwrando arnoch ac yn sicrhau eich bod yn teimlo'n gyfforddus.
